Menu
Close

Rygbi Merched

RGC

Ar hyn o bryd, mae gennym dîm merched hŷn a Dan 18 sy’n chwarae ym mhencampwriaethau’r Rhanbarthau gan gystadlu yn erbyn y pedwar Rhanbarth arall. Mae gennym chwaraewyr o bob cwr o Ogledd Cymru ac ambell i Gymraes oddi-cartref yn ein timau.

Roedd pedair ohonynt yn aelodau o garfan Merched Cymru yng nghwpan rygbi’r byd yn 2017; sef Rachel Taylor, Elen Evans, Jess Kavanagh-Williams a Gwenllian Pyrs.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am dîm rygbi merched hŷn neu Dan 18 RGC, mae croeso i chi gysylltu â Dave Roberts, Swyddog Trawsnewid Rygbi Merched URC yng Ngogledd Cymru, ar droberts@wru.wales neu 07867 35175.