Menu
Close

Chwarae

Chwarae

Mae rygbi Gogledd Cymru yn darparu ar gyfer pob elfen o rygbi, o’r timau plant bach i oedolion, a hynny ar bob lefel o allu a phrofiad. Mae chwarae rygbi neu fod yn gysylltiedig â rygbi yn weithgaredd gwerth chweil. Cofiwch fod llawer mwy i rygbi na dim ond chwarae’r gêm.

MANTEISION RYGBI

Mae cymaint o fanteision ynghlwm wrth rygbi ac nid dim ond manteision iechyd o ymarfer corff. Gall pobl o bob gallu, rhyw a sgil chwarae rygbi. Gallwch chwarae am hwyl, i gadw’n heini neu i gynrychioli’ch clwb lleol.

Mae rygbi yng Nghymru yn hyrwyddo gwerthoedd sy’n cynnwys y teulu, hiwmor, didwylledd ac yn anad dim gonestrwydd a gwaith tîm. Mae rygbi’n ceisio ymwreiddio’r gwerthoedd pwysig hyn mewn chwaraewyr ifanc o oed cynnar, ac mae hefyd yn meithrin yr amgylchedd delfrydol i gwrdd â phobl yn eich ardal, gwneud ffrindiau newydd a chyfrannu at eich cymuned.

Efallai nad yw eich bryd chi ar chwarae rygbi, ond mae llawer o gyfleoedd eraill ar gael i chi gyfrannu at waith eich clwb a’r gymuned.

Ydych chi wedi ystyried bod yn ddyfarnwr, yn hyfforddwr, yn berson cymorth cyntaf, yn rheolwr tîm neu’n wirfoddolwr yn eich clwb lleol er mwyn cyfrannu at lwyddiant eich clwb yn y dyfodol?

SUT ALLA I HELPU?

Mae’n syml. Tarwch olwg ar y dudalen clybiau yn yr adran hon a chwiliwch am glwb yn eich ardal leol. Cysylltwch â nhw i holi am fwy o wybodaeth. North Wales rugby encompasses all aspects of rugby from minis right through to adults and every game in between, catering for all levels of ability and experience. Playing rugby or just being involved with rugby can be extremely rewarding, and there are many ways to participate in the sport apart from just playing.