Cewch ddiwrnod i’r brenin gyda ni ar ddiwrnod gêm RGC. Mae pecynnau lletygarwch ar ddiwrnod gêm RGC yn darparu’r amgylchedd perffaith i ddiddanu eich gwesteion neu i ddathlu digwyddiad arbennig gyda’ch teulu neu ffrindiau.
Manteisiwch ar un o’n hystafelloedd lletygarwch ar gyfer hyd at 10 o bobl, gan greu pecyn sydd wedi’i deilwra’n arbennig i chi o ran eich anghenion, y digwyddiad neu’ch gofynion deietegol.
Cewch groeso cynnes bob amser ym Mharc Eirias a bydd ein pecynnau lletygarwch arbennig yn sicrhau eich bod yn cael diwrnod i’w gofio.
Eisteddwch yn ôl i fwynhau rygbi Uwch-gynghrair Cymru gydag RGC.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am becynnau lletygarwch ar ddiwrnod gêm, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sion Jones
Rheolwr Cyffredinol URC – Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru ac RGC
Ffôn: 07876 854961
E-bost: sajones@wru.wales