Mae chwarae rygbi’n rheolaidd yn gwella ymddygiad pobl ifanc a’u gallu i ddysgu.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwelliannau ar y cae ac oddi ar y cae ers i Undeb Rygbi Cymru gyflwyno cynllun hyb rygbi arloesol dair blynedd yn ôl.
Ar hyn o bryd, mae 9 swyddog llawn amser wedi’u cyflogi gan ysgolion a cholegau ar draws y Rhanbarth. Rhaglen a grëwyd mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yw hon.
Mae swyddogion Hyb Rygbi yn gweithio’n llawn amser, wedi’u talu gan ysgolion a’r clybiau drwy URC i gynnal sesiynau rygbi mewn ysgolion ac yn y clybiau lleol. Maent yn helpu i ddod ag ysgolion, clybiau a chymunedau at ei gilydd yn ogystal â hyrwyddo un o amcanion URC o gael mwy o bobl i gymryd rhan, yn fwy aml gyda mwy o fwynhad a mwy o lwyddiant yn ein gêm genedlaethol.