Sefydlwyd y Grŵp hwn i ddatblygu’r gêm Dan 19 ledled Cymru. Yng Ngogledd Cymru, bydd y Grŵp yn helpu i lywio’r gêm a cheisio cael mwy o bobl i chwarae’r gêm yn fwy rheolaidd dan 19 oed mewn clybiau bywiog a lleoliadau cymunedol sy’n cynnal gwerthoedd rygbi Cymru a phrofiadau rygbi cadarnhaol.
Bydd y Grŵp yn goruchwylio ac yn rheoli datblygiad dynion a merched drwy gydol y cyfnodau pontio o bob oed, o rygbi i blant bach, i’r timau iau, ieuenctid a hŷn gan sicrhau dyfodol llewyrchus a chadarnhaol i rygbi yng Ngogledd Cymru.
Gallwch gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Grŵp Rheoli’r Gêm ar draws y rhanbarth er mwyn i chi allu cadw eich bys ar byls datblygiadau yn Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru.
Ydych chi’n teimlo’n gryf ac yn angerddol am ddatblygu rygbi yng Ngogledd Cymru?
Rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy o help a chymorth. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth:
Marc Roberts
Rheolwr Cyfranogaeth y Rhanbarth
E-bost: mroberts@wru.wales