Menu
Close

Datblygu

Datblygu

“Dod at ein gilydd yw’r cam cyntaf; aros gyda’n gilydd yw’r cam nesaf; ond cydweithio sy’n creu llwyddiant”

Mae gan RGC hanes da o gynhyrchu a datblygu doniau lleol a gwelwyd hynny’n glir yng ngharfan tîm cyntaf RGC yn nhymor 2016/17. Oed cyfartalog y garfan ar ddiwrnod gêm oedd 22 ac roedd dros 80% o’r chwaraewyr yn wreiddiol o Ranbarth Gogledd Cymru.

Mae’n amlwg i bawb bod rhaid i lwyddiant rhanbarth Gogledd Cymru ddeillio o’r tu mewn i’r rhanbarth ei hun. Golyga hyn felly bod rhaid gweithio’n agos â’n holl glybiau, ysgolion a chymunedau i sicrhau bod pob chwaraewr, beth bynnag yw eu hoed, eu rhyw neu eu gallu, yn cael llwybr clir a chadarnhaol i’w dyfodol ym maes rygbi.