Menu
Close

Academi

Academi

Mae Gogledd Cymru yn Rhanbarth Datblygu allweddol i ddyfodol rygbi yng Nghymru. Er mwyn meithrin talent a sêr y dyfodol o’r gogledd, mae’r rhanbarth wedi adnabod nifer o Bartneriaid Academaidd sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gogledd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru (URC) i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r rhanbarth.

PARTNERIAID ACADEMAIDD

Add logos

AMCANION YR ACADEMI

  • Darparu rhaglen hyfforddi, ffitrwydd ac addysg i wella perfformiad a datblygiad personol unigolion ifanc talentog o bob cwr o Ranbarth Gogledd Cymru.
  • Meithrin talent y dyfodol ac ansawdd y rygbi yn ein clybiau yng Ngogledd Cymru, yn y Rhanbarth ac yn RGC.
  • Darparu platfform ar gyfer cyfleoedd rygbi, addysg a gyrfa i’r dyfodol.

LLWYBR YR ACADEMI

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i’r Academi yn dilyn amserlen integredig sy’n caniatáu amser i astudio dewis o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ochr yn ochr â rhwng 14 a 16 awr o rygbi bob wythnos.

Mae gan Academi RGC rôl a phwrpas sy’n cynnwys adnabod a meithrin athletwyr ifanc talentog rhwng 14 a 21 oed drwy eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen datblygu perfformiad.

Yr Academi yw’r sylfaen ar gyfer dyfodol RGC a Rhanbarth Gogledd Cymru.