Tîm Hŷn
Mae gennym 8 tîm hŷn yng Ngogledd Cymru. Mae Caernarfon yn chwarae yn yr Uwch-gynghrair Genedlaethol ac Abergele yn chwarae yn Adran 1. Mae Caergybi, Pwllheli, Shotton, Llangollen, y Trallwng a COBRA yn chwarae yn Adran ‘Game On’ Rygbi Merched Gogledd Cymru. Adran newydd ei ffurfio yw hon sy’n cynnig fformat arloesol newydd ac sy’n gwobrwyo timau am recriwtio a chadw chwaraewyr, yn ogystal ag ennill gemau rygbi!
Dan 15 ac 18
Mae sawl clwb sy’n cynnal timau rygbi merched Dan 15 a Dan 18. Yn rhannau deheuol y Rhanbarth, ceir timau yn Nolgellau a’r Bala, yn ogystal â’r Montgomeryshire Rebels sy’n cynnwys chwaraewyr o COBRA, y Trallwng a Llanidloes. Yn y dwyrain, mae’r Ravens sy’n chwarae eu gemau cartref yng Nghlwb Rygbi Rhuthin ond sy’n agored i bob merch o ardal ddwyreiniol Gogledd Cymru. Yn y Gorllewin, ceir timau yng Nghaernarfon, Nant Conwy a Bethesda.
Cynhelir gŵyl rygbi fisol lle mae’r holl dimau hyn yn dod ynghyd i chwarae yn erbyn ei gilydd. Maen nhw hefyd yn cynnal gemau unigol yn ystod y tymor.
Clwstwr
Mae gennym hefyd 3 chlwstwr merched yn unig dros fisoedd yr haf fel bod merched rhwng 7 a 15 yn gallu chwarae rygbi. Mae’r Rebels yn cynrychioli de y Rhanbarth, y Môr Ladron yn y gorllewin a’r Ravens yn y dwyrain. Ceir rhagor o fanylion am leoliadau ac amseroedd ymarfer y timau hyn ar ddechrau’r haf.
I gael gwybodaeth am rygbi i ferched yn y gymuned o fewn Rhanbarth RGC, mae croeso i chi gysylltu â Dave Roberts, Swyddog Trawsnewid Rygbi Merched URC, ar droberts@wru.wales neu 07867 35175