Mewn Trên
Mae gorsaf drenau Bae Colwyn yn hwylus i deithwyr o’r dwyrain a’r gorllewin. Mae Eirias tua 10 munud ar droed neu munud neu ddwy mewn tacsi o’r orsaf. Adeg digwyddiadau mawr, bydd digon o arwyddion i’ch arwain i’r cyfeiriad cywir.
Mewn car
Dewch oddi ar gyffordd 22 yr A55, gan ddilyn yr arwyddion i Hen Golwyn. Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Caer, dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 22, a throi i’r chwith ar ddiwedd y ffordd ymadael gan ddilyn y ffordd i fyny. Wrth y gylchfan, cymrwch y 4ydd allanfa tuag at Ffordd Abergele ac rydyn ni dafliad carreg i ffwrdd ar yr ochr dde. Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Bangor, dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 22, gan ddilyn y ffordd ymadael i lawr ac wedyn troi i’r dde. Wrth y gylchfan, cymrwch y 4ydd allanfa tuag at Ffordd Abergele ac rydyn ni dafliad carreg i ffwrdd ar yr ochr dde.
Parcio
Mae amrywiol feysydd parcio yn Stadiwm Zip World ac Eirias ar ddiwrnod gêm. Mae’r maes parcio i bobl anabl yn Ysgol Uwchradd Eirias ac yn y maes parcio oddi ar Ffordd Abergele. Dyma’r meysydd parcio am ddim ger y stadiwm:
- Maes parcio’r “astro turf” (nesaf at y Swyddfa Docynnau)
- Canolfan Hamdden Colwyn
- Ysgol Uwchradd Eirias
- Maes parcio newydd oddi ar Ffordd Abergele
- Y Ganolfan Ddinesig
Mae’r maes parcio i fysiau ar y cae “astro turf” ac mae llefydd parcio penodol i fysiau yn y maes parcio newydd. Ceir hefyd nifer o feysydd parcio talu ac arddangos ym Mae Colwyn ei hun. Mae’r dref dafliad carreg o’r stadiwm ac mae yna arhosfan bysiau gyferbyn â’r maes.