Menu
Close

Dyma RGC

Dyma RGC

DYMA RGC, DYMA RYGBI GOGLEDD CYMRU

Mae hanes Rygbi Gogledd Cymru yn dyddio’n ôl i 1881. Roedd Bangor yna o’r cychwyn cyntaf fel un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru. Erbyn heddiw, mae 33 clwb yn rhanbarth Gogledd Cymru sy’n rhannu’r dyhead i dyfu rygbi yng Ngogledd Cymru a rhoi cyfle i bobl o bob oed, o bob rhyw a phob gallu i gyfrannu at y gamp. Mae Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru nawr yn troi ei golygon at y dyfodol ac at ffyrdd o ysgogi ein cymuned drwy lwyddiant ar y cae ac oddi ar y cae. Bydd y bennod nesaf yn hanes Rygbi Gogledd Cymru yn ymwneud â datblygu tirwedd rygbi cadarnhaol a bywiog yma.

Ffurfiwyd RGC i roi llwyfan i’n talent gorau i berfformio a disgleirio ar lefel ranbarthol ac yn rhyngwladol yn y pen draw. Er mwyn i RGC lwyddo ac er mwyn mynd o nerth i nerth, mae’n hanfodol bod pob un o’n 33 clwb, y rhanbarth, ein cymunedau, ein pobl ac RGC yn dod at ei gilydd a chydweithio i wireddu ein gweledigaeth.

Ein gwerthoedd sy’n ein gwneud ni’n wahanol. Maent yn rhywbeth mae pob un ohonom yn eu rhannu ac sy’n ein gwneud yn unigryw. ’Da ni’n gryfach gyda’n gilydd.