Ein gwerthoedd sy’n ein gwneud ni’n wahanol. Maent yn rhywbeth mae pob un ohonom yn eu rhannu ac sy’n ein gwneud yn unigryw. Mae ein gwerthoedd a’n DNA yn gwneud Gogledd Cymru yn rhanbarth unigryw.
Ein rhinwedd cryfaf yw ein bod yn credu yn y gwerthoedd y gall rygbi eu cyfrannu i wneud ein cymunedau yn iachach, yn gryfach ac yn fwy bywiog.
YN GYNHWYSOL AC I’R TEULU
Mae rygbi’n gamp i bawb a gall weddnewid bywydau. Dyna’r hyn mae ein teulu rygbi rhanbarthol yn ceisio ei wneud. Mae croeso i bawb, beth bynnag yw eu hoed, eu rhyw a’u gallu.
CALON A BALCHDER
Mae Calon a Balchder yn ein hanes, ein hiaith a’n diwylliant yma yn Rhanbarth Gogledd Cymru yn ganolog i bopeth a wnawn.
POSITIFRWYDD A LLWYDDIANT
Mae Positifrwydd yn creu Llwyddiant.
Mae Llwyddiant yn creu Positifrwydd. Gall pob un ohonom gyfrannu at lwyddiant ein rhanbarth drwy ein hagwedd a sut rydym yn dathlu ein llwyddiannau, y rhai bach a mawr.