Menu
Close

Latest News

RGC Junior Cup competition sponsored by St David’s College

RGC Junior Cup competition sponsored by St David’s College 24 Sep 2023

WRU Community Team launch RGC Junior Cup competition sponsored by 

St David’s College 

 

This season the WRU Community Team, in partnership with RGC, has launched its first-ever Junior Cup Competition. With 21 clubs represented across the Region, and a total of 88 teams registered to participate from under 12s up to under 16s it's sure to be a great spectacle. 

 

Support has also come from St David’s College, who were quick to come on board once they heard about the new competition; Headmaster Mr Andrew Russell, “I’m so pleased that we are able to support community Rugby by sponsoring this new Junior Cup Competition and continue working with RGC. This feeds directly into “Pursuit of prowess at games” something our founders promised at our inception and it remains a vital part of our DNA to this day.” 

 

The first rounds of the competition will be held provincially before splitting into a Cup, Plate and Bowl format. Every team who enters will be guaranteed a minimum of five fixtures, with a maximum of eight leading up to the finals weekend at Stadiwm CSM, Parc Eirias on the May Day Bank Holiday weekend from Friday 3rd to Monday 6th May. 

 

For that weekend Stadiwm CSM will host a total of 14 finals giving 28 teams a chance to experience playing in a final at the home of RGC, in front of what is sure to be a bumper crowd in attendance. 

 

Working together with clubs in the Region this competition will be used to develop coaches, referees and improve pitchside behaviour to make sure that every child who participates in the competition has the best possible experience. It is also hoped that the quality of coaching, refereeing and the players coming through the pathway will improve as a result of the competition. 

 

Dai Higgs, WRU Community Regional Lead for North Wales had this to say; “‘It's exciting to get the RGC Cup competitions up and running. Listening to the clubs is really important to us, and the feedback from the clubs is that they wanted junior cup competitions. It's great that we can do that, culminating in the finals weekend at Stadiwm CSM. With an exciting Cup, Plate and Bowl format, teams can find their own level and make new friendships with clubs that they wouldn't normally play. I am also pleased that we are using this competition to tackle pitchside behaviour, and to develop the talented referees and coaches we have in the region. Good Luck to all involved.’

 

“We’re delighted to be hosting the finals at Stadiwm CSM” said RGC General Manager, Alun Pritchard. “Making our community and performance pathways more aligned is one of the key themes we’re looking to achieve and competitions like this, run correctly, can only be a good thing for these age groups. I’d like to thank St David’s College for sponsoring the competition as without support from local businesses many of these initiatives wouldn’t be able to take place.

 

Tîm Cymunedol URC yn lansio cystadleuaeth Cwpan Iau RGC gyda nawdd gan Goleg Dewi Sant. 

Y tymor hwn, mae Tîm Cymunedol URC, mewn partneriaeth ag RGC, wedi lansio ei Gystadleuaeth Cwpan Iau gyntaf erioed. Gyda 21 o glybiau’n cael eu cynrychioli ar draws y Rhanbarth, a chyfanswm o 88 o dimau wedi cofrestru i gymryd rhan o dan 12 hyd at dan 16 oed, mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych. 

Gyda chefnogaeth hefyd gan Goleg Dewi Sant, a oedd yn barod iawn i ymuno ar ôl clywed am y gystadleuaeth newydd; meddai’r Pennaeth Mr Andrew Russell, “Rwyf mor falch ein bod yn gallu cefnogi rygbi cymunedol drwy noddi’r Gystadleuaeth Cwpan Iau newydd hon a pharhau i weithio gydag RGC. Mae hyn yn bwydo’n uniongyrchol i “Ar drywydd sgiliau mewn gemau”, rhywbeth a wnaeth ein sylfaenwyr ei addo o’r dechrau ac mae’n parhau yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth hyd heddiw. 

Bydd rowndiau cyntaf y gystadleuaeth yn cael eu cynnal fesul rhanbarth cyn rhannu’n fformat Cwpan, Plât a Phowlen. Bydd pob tîm sy’n cymryd rhan yn sicr o chwarae pum gêm o leiaf, gydag uchafswm o wyth yn arwain at benwythnos y rowndiau terfynol yn Stadiwm CSM, Parc Eirias, ar benwythnos Gŵyl y Banc Calan Mai o ddydd Gwener 3 tan ddydd Llun 6 Mai. 

Ar gyfer y penwythnos hwnnw bydd Stadiwm CSM yn cynnal cyfanswm o 14 o rowndiau terfynol gan roi cyfle i 28 tîm chwarae mewn rownd derfynol yng nghartref RGC, o flaen torf enfawr gobeithio. 

Gan weithio gyda chlybiau yn y Rhanbarth, bydd y gystadleuaeth hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwella ymddygiad ochr y cae i wneud yn siŵr bod pob plentyn sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cael y profiad gorau posib. Y gobaith hefyd yw y bydd ansawdd yr hyfforddi, dyfarnu a'r chwaraewyr sy'n deillio o’r llwybr yn gwella o ganlyniad i'r gystadleuaeth. 

Meddai Dai Higgs, Arweinydd Rhanbarthol Cymunedol URC ar gyfer Gogledd Cymru; “‘Mae’n deimlad cyffrous bod cystadlaethau Cwpan RGC ar droed. Mae gwrando ar y clybiau yn wirioneddol bwysig i ni, a’r adborth gan y clybiau yw eu bod yn awyddus i weld cystadlaethau cwpan iau. Mae’n wych ein bod ni’n gallu cynnig hynny, gan orffen gyda phenwythnos y rowndiau terfynol yn Stadiwm CSM. Gyda fformat Cwpan, Plât a Phowlen gyffrous, gall timau ddod o hyd i'w lefel eu hunain a meithrin cysylltiadau newydd â chlybiau na fyddent yn chwarae yn eu herbyn fel arfer. Rwyf hefyd yn falch ein bod yn defnyddio’r gystadleuaeth hon i fynd i’r afael ag ymddygiad ochr y cae, ac i ddatblygu sgiliau’r dyfarnwyr a’r hyfforddwyr dawnus sydd gennym yn y rhanbarth. Pob lwc i bawb fydd yn cymryd rhan.’ 

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cynnal y rowndiau terfynol yn Stadiwm CSM” meddai Alun Pritchard, Rheolwr Cyffredinol RGC. “Mae sicrhau bod ein llwybrau cymunedol a pherfformiad yn fwy cyson yn un o’r themâu allweddol rydyn ni’n ceisio eu cyflawni, a gall cystadlaethau fel hyn, a gaiff eu rhedeg yn gywir, fod yn beth da i’r grwpiau oedran hyn. Hoffwn ddiolch i Goleg Dewi Sant am noddi’r gystadleuaeth, oherwydd heb gefnogaeth gan fusnesau lleol ni fyddai llawer o’r mentrau hyn yn gallu digwydd.”

Dai Higgs – WRU North Wales Community Lead

Alun Prtchard – RGC General Manager

Dan Lycett – Head of PE, St David’s College

Dafydd Roberts – WRU North Wales Regional Officer