Menu
Close

Cornel y Cefnogwyr

Cornel y Cefnogwyr

Eleni, gwelwyd cefnogwyr brwd o’r gogledd yn teithio o bell ac agos i’n gemau cartref ac oddi cartref. Heb y gefnogaeth hon, fyddai RGC ddim yn y sefyllfa gadarnhaol yr ydym ynddi heddiw.

Yn 2017, cafodd ein cefnogwyr ddiwrnod bythgofiadwy yng Nghaerdydd yn gwylio RGC yn chwarae yn erbyn Clwb Rygbi Pontypridd yn Rownd Derfynol Cwpan Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm y Principality.

Roedd y diwrnod hwn yn benllanw un o dymhorau mwyaf llwyddiannus yn hanes y tîm ar y cae ac oddi ar y cae – ac i goroni’r cyfan llwyddodd RGC i ennill y Cwpan!

Dyma ffilm yn crynhoi rhai atgofion o’r diwrnod a golwg tu ôl i’r llen o’r paratoadau a’r dathlu.