Menu
Close

Latest News

General Manager Update

General Manager Update 8 Aug 2021

It’s great to be back involved with RGC after so many years watching from afar; well, I say afar, but I can actually hear the roars of the crowd from home! Things haven’t been easy for anyone over the last 18 months, and I know how hard the team here have been working to maintain the solid foundations built in years gone by. I hope to add to these, creating an organisation that is valued in its communities and feared by the opposition on the pitch.

 

Prior to me being in post Will Cusack was appointed as Strength & Conditioning Coach along with Will Price as Analyst. Although both have come from different parts of the UK, they are bonding well and certainly provide the office entertainment! Their recruitment is just the start as we are in the process of recruiting a Head Coach who will strengthen the already effective team of Josh Leach and Latham Tawhai. We will also be adding to our regional age grade pathway coaching team as we aim to develop home grown players who have been provided with top notch coaching in first class facilities.

 

It’s no secret that some players have left to try their hand elsewhere; mainly in the English Championship given their ability to train and play when we were still under lockdown rules. We wish these players the best of luck, and as we have proven before, we will give opportunities to youngsters from our Senior Academy to fill these roles. However, some experience cannot be underestimated, and several players have been brought in on trial to prove that they have both the rugby capabilities and necessary attitude required to succeed here at RGC. Welsh qualified Jessie Williams has returned from New Zealand to bolster our front row options, Zach Clow adds to the quality on the centre/wing and Samir Tahraoui is a big ball carrying rugby league convert who can play second row or back row.

 

Pre-season fixtures have been lined up against London Scottish (home on 14th August) and Caldy (away on 27th August). We’re hoping to add 1 or 2 more to this yet so keep your eyes peeled! These should provide good opposition in advance of the Premiership Cup which begins on 18th September with a trip away to Cardiff. Tough opponents, but I think it’s fair to say we don’t care who we play or where so long as we can get back to playing rugby.

 

A new kit for the 2021/22 season is currently being produced with the players being instrumental in providing ideas for the design. I can’t give too much away but there are hints of Owain Glyndwr and a nod of the head to the 32 club sides from across the region who develop and nurture our players, playing such an important role in their communities and throughout the region. An away kit is also in the design phase and is definitely one for the more confident of you out there!

 

Prior to the start of the competitive season, you will also see some small but effective changes at Parc Eirias. One of these is the Halliwell Jones Fanzone being moved to the top of the East Terrace. This will provide a better view of the pitch, creating more atmosphere and another covered area for spectators to view games from whilst enjoying the hospitality RGC can offer. The marquee will also be made available for private bookings away from rugby fixtures helping to generate revenue for RGC.

 

A new members club is currently being developed offering you, our supporters, the opportunity to enjoy exclusive offers from our partners and other businesses across the region. It will also provide a ballot system for international tickets and Junior members will get the opportunity to be a mascot for our home fixtures. This is not instead of the supporters’ club, but is in addition, providing a new opportunity to get involved whilst continuing to support RGC.

 

Despite the recent pandemic, RGC continue to be supported by a number of steadfast partners which helps to ensure that we are sustainable off the pitch as well as on it. Halliwell Jones, Cartrefi Conwy, Bamber Homes and Aber Falls are just some of the businesses supporting the region along with our educational partners; Coleg Llandrillo, Bangor University, Coleg Cambria and St David’s College. A big thank you must also go to Conwy County Borough Council who continue to provide us with fantastic support and amazing facilities.

 

Away from the performance area of RGC, the Participation team have been working tirelessly to bring activities back to our communities and have been leading on a series of summer camps throughout the region. I was lucky enough to head over to Bethesda where 50+ boys and girls were enjoying taking part in activities organised in conjunction with the Urdd. Collaborative projects such as this will be key in driving us forwards in the future and we will be looking to develop these partnerships further.

 

Under the guidance of Marc Roberts, we have doubled the number of hub officers from 10 to 20, encouraging many more children and adults to take party in rugby in some way, shape or form. The more children we can get playing rugby and growing the base of our regional pyramid then the better the quality will be at the peak. This can only be beneficial for RGC and the individuals, both male and female, who are taking part.

 

My aim is to get out to all corners of North Wales in the near future, taking on board the opinions of many and ensuring that we cater, as much as physically possible, for the whole region. I understand the commitment it takes for players and supporters alike to make the journey to Colwyn Bay and we will be looking at what we can do to help bring a flavour of RGC to other areas in the future.

  

Finally, I would like to thank you, our loyal fan base without whose support we wouldn’t be where we are now. I realise how cheesy that sounds, but it’s true. If we want to see the continued progression of RGC and hope to one day become a fully-fledged region then we need to be sustainable both on and off the pitch with full crowds filling the stands and cheering the team on.

 

I look forward to meeting you all and welcoming you back to Parc Eirias soon.

 

 

Mae’n wych cael ail gydio yn fy nghysylltiad â RGC ar ôl cymaint o flynyddoedd yn gwylio o bell. Wel, dwi’n dweud ‘o bell’ ond rwyf yn medru clywed rhuo’r dorf o adre’! Mae hi wedi bod yn ddeunaw mis anodd i bawb, ac rwy’n ymwybodol pa mor galed mae’r tim yn RGC wedi bod yn gweithio i gynnal y sylfeini cadarn sefydlwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fy mwriad i yw adeiladu ar y sylfeini yma i ddatblygu mudiad â werthfawrogir ymysg y cymunedau y mae’n gwasanaethu ac â ofnir gan ein gwrthwynebwyr ar y cae rygbi.

Cyn ir mi gychwyn ar fy swydd, apwyntiwyd Will Cusack fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, a Wil Price fel Dadansoddwr Gemau. Er bod y ddau wedi mudo yma o ardaloedd eraill o Brydain, maen’t wedi setlo yn dda a bellach yn rhan o adloniant y Swyddfa! Er bod penodi y ddau yn allweddol, megis cychwyn ydyw ar raglen dipyn ehangach. Mae penodiad Prif Hyfforddwr yn ben ar y tîm hyfforddi sydd gennym eisoes ar y gweill gyda Josh Leach a Latham Tawhai wedi ymroi i fod yn rhan o’r tîm yna. Bwriad arall yw ychwanegu at nifer yr hyfforddwyr oedran o fewn y Rhanbarth er mwyn sicrhau dilyniant o chwaraewyr lleol penigamp sydd wedi derbyn hyfforddiant o’r ansawdd uchaf yn manteisio ar y cyfleusterau gorau.

Mae’n hysbys bellach bod rhai o’n chwaraewyr wedi ymadael i roi cynnig ar chwarae i dim eraill, yn bennaf yn Adran Bencampwriaeth Lloegr. Cafodd y timau yma ymarfer a chwarae tra oedd Cymreig wedi eu llyffetheirio gan gyfyngiadau’r cyfnod-clo. Pob lwc i’r chwaraewyr sydd wedi ein gadael. Byddwn yn cynnig pob cyfle i aelodau’n Uwch-Academi i gymryd eu lle yng ngharfan y tim cyntaf fel bob amser. Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio gwerth profiad ac mae sawl chwaraewr profiadol o du allan i’r academi bellach ar gyfnod prawf gyda’r clwb. Rydym yn falch o groesawu Jesse Williams yn ôl  i Ogledd Cymru o Seland Newydd, yn enwedig gan ei fod yn gymwys i chwarae i Gymru. Gobaith yr hyfforddwyr yw y bydd chwaraewr arall, Zach Clow, yn gaffaeliad yng nghanol y cae ac ar yr asgell.

Mae’r trydydd chwaraewr - Samir Taraoui - wedi ymuno â RGC ar ôl gyrfa lwyddiannus yn Rygbi Tair ar Ddeg yn cynnwys chwarae i rai o glybiau mwya’ Prydain.  Mae’n chwaraewr medrus ag ymosodol wrth hyrddio a’r bel. Ac yntau’n chwe troedfedd a hanner y gobaith yw y bydd yn medru chwarae yn yr ail reng neu’r rheng ôl.

Mae’n siwr y byddwch yn falch o glywed bod y clwb yn bwriadu chwarae gemau cyn cychwyn y tymor go-iawn. Mae gemau yn erbyn Yr Albanwyr yn Llundain eisoes wedi ei drefnu ar gyfer Awst 14eg yn Eirias ac gêm arall i ffwrdd yn erbyn Caldy ar Awst 27ain. Gobeithiwn ychwangu un neu ddau arall cyn dechrau’r tymor ar Hydref 18fed gyda gem yn erbyn Caerdydd (i ffwrdd) yng nghwpan yr Uwch Adran. Mi fydd honno’n her anodd ond ar hyn o bryd rydym ni jest yn falch o gael ail ddechrau chwarae!

Wrth i mi ysgrifennu hwn mae crys newydd ar gyfer y tymor yn cael ei ddylunio. Mae’r chwaraewyr wedi cael mewnbwn i’r dyluniad, a heb adael y gath o’r cwd, cewch weld cyfeiriad at Owain Glyndwr a chydnabyddiaeth o 32 clwb rygbi gogledd Cymru sydd wedi meithrin a datblygu y chwaraewyr cyn iddyn nhw ymuno âg RGC.  Mae dyluniad crys i ffwrdd’ ar gweill hefyd … tydi o ddim ar gyfer y cefnogwr swil. Digon yw dweud nag ewch chi byth ar goll tra’n gwisgo hwn!

Cyn cychwyn y tymor mi wnewch chi sylwi ar rai newidiadau bach cynnil ym Mharc Eirias. Mae bwriad symud y Fanzone Halliwell Jones yn agosach at Deras y Dwyrain er mwyn caniatau gwell golygfa o’r cae o’r Fanzone ei hun. Y gobaith yw y bydd hyn yn creu awyrgylch mwy cynhyrfus a chaniatau i gefnogwyr sydd eisiau gwylio’r gem o’r bar fedru gwneud hynny’n hwylus.  Bydd cyfle hefyd i logi’r marquee ar gyfer digwyddiadau tu hwnt i rygbi gan greu rhywfaint o elw i’r clwb.

Tâsg arall ar y gweill yw trefnu clwb aelodau i gefnogwyr RGC fydd yn caniatau i aelodau elwa ar gyfleon neu ar gynnigion arbennig gan ein noddwyr a busnesau eraill ar hyd a lled y rhanbarth. Mi fydd y clwb yn fodd o weinyddu system dynnu tocyn ddirgel ar gyfer gemau rhyngwladol ac i ganiatau i’n aelodau iau roi cais i fod yn fascot yng ngemau cartref RGC. Nid bwriad hwn yw cymryd lle y Clwb Cefnogwyr presennol, ond rhywbeth ychwanegol fydd – dwi’n gobeithio -  yn gyfle I gefnogwyr elwa o fod yn gysylltiedig â’r clwb.

Er gwaetha’r pandemig diweddar mae RGC yn ffodus o dderbyn cefnogaeth grêf gan nifer o bartneriaid sy’n sicrhau ein bod yn gynaladwy oddi ar y cae. Mae Halliwell Jones, Cartrefi Conwy, Bamber Homes ac Aber Falls yn rai o’r cwmniau sy’n cefnogi’r rhanbarth ynghyd a’n partneriaid ym myd addysg, Coleg Llandrillo, Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a St David’s College, heb anghofio Cyngor Conwy sy’n darparu cyfleusterau gwych a chefnogaeth grêf bob amser.

Oddi ar y cae, mae’r tim Cyfranogi wedi bod wrthi fel lladd nadroedd i gynnal gweithgareddau mewn cymunedau ar hyd a lled y rhanbarth yn cynnwys sawl gwersyll rygbi. Mi ge’s i gyfle i bicio i mewn i’r gwersyll yn Bethesda lle roedd mwy na 50 o fechgyn a genethod yn amlwg wrth eu bodd. Trefnwyd y  gwersyll ar y cyd rhwng RGC a’r Urdd. Roedd yn llwyddiant penigamp ac yn rhywbeth y byddwn yn gobeithio gwneud mwy ohono yn y dyfodol.

Yr ydym yn sylweddoli po fwya o blant sy’n chwarae’r gem, mwya o chwaraewyr safonol fydd yn cyrraedd y brig ac bydd hyn o fudd amlwg i RGC. Dyna pam yr ydym ni, dan arweinyddiaeth Marc Roberts, wedi dyblu niferoedd y Swyddogion Hwb o ddeg i 20.

Fy mwriad yw teithio gogledd Cymru ben baladr i holi barn am eich anghenion chwi a ceisio sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau I helpu. Rwy’n ymwybodol o’r ymroddiad sy’n angenrheidiol i blant a chefnogwyr I deithio I Fae Colwyn ac rydym yn gobeithio trefnu rhyw fath o ddarpariaeth i ddod â blas o RGC ar hyd a lled y rhanbarth.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, a holl gefnogwyr ffyddlon RGC. Dwi’n sylweddoli ei fod o’n swnio fel taswn i’n dweud hynny heb ei feddwl o, ond mae’n hollol wir. Os mae RGC am ffynnu a datblygu i fod yn rhanbarth rygbi go-iawn rhaid i ni fedru cystadlu ar y cae a bod yn gwbwl gynaladwy oddi arno hefyd, gyda torfeydd yn llenwi’r eisteddleoedd yn bloeddio eu cefnogaeth.  

Edrychaf ymlaen at gael cwrdd â chwi oll, a’ch croesawu yn ol i Barc Eirias cyn bo hir.

Diolch Alun